Ciw-restr

Y Ddraenen Wen

Llinellau gan Syr Tomos (Cyfanswm: 76)

 
(1, 0) 9 Fel eich hen aelod, rwy'n diolch i chwi eto am ethol un o blant y Werin sydd hefyd yn gynnyrch diwylliant goreu'n gwlad, a phwy a ŵyr nad oes gennym yn Mr. Harri Meredith Owain Glyndŵr arall, ond Glyndŵr heb loyw arf ond ei gariad at ei wlad a'i athrylith i weini arni?
(1, 0) 10 Am y tro diweddaf, |three cheers| iddo ac hir oes i wasnaethu 'i genedl.
 
(1, 0) 17 Harri!─
 
(1, 0) 19 .}
(1, 0) 20 Mi faddeuwch i mi 'ch dau, ond Harri fydda i'n ei alw er yn hogyn.
 
(1, 0) 24 Harri, bu Mr. a Mrs. Jones-Roberts yn gefn i mi ac i'r blaid drwy'r blynyddoedd, a syn i mi {fel cadno cyfrwys} na fasa enw Mr. Jones-Roberts ar yr |Honours-list| ers llawer dydd.
 
(1, 0) 31 Dyna adnod i glensio'r ddadl.
 
(1, 0) 39 |Veteran|! mewn dysg a profiad efallai, ond rydych yn edrych yn iengach heddiw─
 
(1, 0) 47 Pwy ond y gŵr all siarad am wraig ei fynwes?
 
(1, 0) 53 Os dwedodd Harri unwaith y tair wsnos diweddaf mi ddwedodd ganwaith am yr help fuoch chwi'ch dau iddo.
(1, 0) 54 "Mae tact Mrs. Jones-Roberts," medde fo ddoe, "yn amhrisiadwy".
 
(1, 0) 58 Harri, tasa gen i ddarn o gortyn yn spâr mi faswn yn gofyn iti fel ffafr bersonol i grogi dy hun rhag blaen.
 
(1, 0) 60 Myrddin mi glywsoch chi─
 
(1, 0) 77 Prifysgol Cymru.
 
(1, 0) 90 Ie, prifysgol i blant y werin─
 
(1, 0) 93 Na, na wrth gwrs─mae'u fôts nhw─
 
(1, 0) 99 Peth o'r |atmosphere|.
 
(1, 0) 102 Sydd wedi'u cerfio ar ein calon.
 
(1, 0) 105 Ie, oes y byd i'r iaith Gymraeg!
 
(1, 0) 112 |Atmosphere|─|atmosphere|.
 
(1, 0) 114 Rhaid cael gwared o'r ddau |atmosphere| yna.
 
(1, 0) 117 Fasa waeth gen i gysgu ar lwyn o gelyn, ond myn brain! 'does dim |tact| yn Harri.
 
(1, 0) 120 Hogyn braf ydyw er hynny─thyfith o byth yn ddyn call fel ni'n tri.
 
(1, 0) 124 Roeddwn yn gobeithio dy fod wedi crogi dy hun.
 
(1, 0) 130 Sebon, Harri, rhaid cael sebon ymhob cylch.
 
(1, 0) 132 Nid bod o ddifri sy'n bwysig ond rhoi'r argraff dy fod o ddifri.
(1, 0) 133 Rwyf fi, er enghraifft, wedi palu celwyddau am chwarter canrif, ond rwy'n ddiolchgar na ches i rioed mo 'nal.
 
(1, 0) 139 A'ch celwyddau.
(1, 0) 140 Do, efallai; ond mi lwyddais i gamarwain y mwyafrif─drwy help Myrddin a'r Wasg, a diolch am y Wasg!─hen sefydliad bendigedig yw'r Wasg i amddiffyn celwydd bach gwan amddifad.
 
(1, 0) 142 A dyweded yr holl newyddiadurwyr "Amen."
 
(1, 0) 148 Harri, Harri, does dim shâp politisian ar eiriau fel yna.
(1, 0) 149 Cymer gyngor gan wŷr o brofiad fel ni.
(1, 0) 150 Rhyw fath o lastig yw gwirionedd mewn politics─mi elli ei stretsio, wyddost.
 
(1, 0) 154 Mi fydd yn drêt i'r hen dre fach hyll yma weld dwy mor hardd.
 
(1, 0) 156 |Steady on|! dwy wraig i ddau |M.P.|─chaiff |M.P.| ddim ond un wraig ar unwaith, er gofid i rai o'r cnafon.
 
(1, 0) 158 |Wrong| eto, chymerais i'r un, roedd digon i'w cael.
 
(1, 0) 173 Yn syml dyna yw compromeisio─titotal sy'n cashau |ginger-beer| ond â blys cwrw arno yn torri'r ddadl drwy gymysgu'r ddau a gwneud yr hyn elwir yn shandigaff, a shandigaff o gelwydd a gwir yn gymysg yw busnes a pholitics y byd a'r oesoedd, a dyna fydd hi byth.'
 
(1, 0) 182 Ryda ni i gyd yn Gristnogion, ond y drwg ydi fod Harri o ddifri gyda hi.
 
(1, 0) 184 Dim o gwbl, ond myn einioes Pharo, mae'n drêt gweld rhywun yn ddigon o ffŵl i wneud y cynnig pan mae pawb ar ôl y torthau a'r pysgod ac yn barod i werthu eu nain am daid rhywun arall.
 
(1, 0) 187 Na, na, Cristion o deip yr ugeinfed ganrif wyf fi, achos mae rhaff go hir i rai felly.
(1, 0) 188 Wir ddyn byw, fe all paganiaid fel ni'n tri fod yn Gristnogion heddiw drwy drugaredd, ond fod rhyw hurtyn o ddyn fel Harri yn anesmwytho tipyn ar ddaliadau cyfforddus dynion diwiol fel ni.
 
(1, 0) 191 Sut yr oedd yr hen chware gynt?
(1, 0) 192 "Fedri di fynd i'r ffair i werthu wya heb ddweyd ïe?""
(1, 0) 193 "Medra."
(1, 0) 194 "Dros y bont neu drwy'r caea," ac ymlaen fel yna, a'r gamp oedd peidio dweyd ïe, ond dweyd ïe yr oeddym bob cynnig mewn ffordd rownd-abowt.
 
(1, 0) 196 Chwarter canrif yn ôl euthum i'r Senedd yn benderfynol o beidio dweyd ïe wrth gelwydd a thwyll, ond cyn hir gwelais fod yn rhaid í mi ddweyd celwydd diplomatig, a chan mai brawd tagu yw mygu mi euthum ymlaen o'r celwydd diplomatig at y celwydd noeth─does dim trwch papur sidan rhyngddynt.
 
(1, 0) 203 Be wyddo ni, dri dyn diwiol, nad oes gan Harri ryw syniad mai mynd i fyny yw dod i lawr?
 
(1, 0) 213 Ffrind!
(1, 0) 214 Do.
(1, 0) 215 Rargian fawr, fasa f'enw i ddim yn perarogli fel y mae drwy Gymru onibae i chi drwsio f'areithiau a rhoi ambell baragraff bach diwiol fel hyn drwy Wasg Cymru:
(1, 0) 216 "Y Saboth diweddaf yr oedd Syr Tomos Owen yn bresennol ddwywaith yng nghapel Llwynyblawd.
(1, 0) 217 Mor ddymunol yw gweld ein Seneddwyr yn cadw at yr hen ddefodau sy wedi gwneud Cymru y wlad fwyaf crefyddol dan haul."
 
(1, 0) 219 Dim gair, cofiwch, am y gêm o golff y Sul diweddaf neu chawn ni byth eto fynd i brif wyliau'r Ymneilltuwyr.
 
(1, 0) 221 Ffarwel i chwi'ch dau─Latimer a Ridley Cymru, mi losgwch fel dwy gannwyll wêr.
 
(1, 0) 225 Ryda ni'n tri wedi dod i'r casgliad fod yn rhaid agor dy lygaid cyn mynd i'r Senedd.
 
(1, 0) 227 Y gwir plaen, rhyw hogyn mawr o freuddwydiwr wyt ti─byrbwyll, penstiff; a fi yw spesialist Ysbryd yr Oes i agor dy lygaid.
 
(1, 0) 231 Ti a dy bobol gyffredin─nhw sydd wedi lladd pob un fu'n ddigon hurt i geisio gweini arnynt─mi lladdan' dithau at y |rest|─nhw yw'r set fwya anniolchgar tan haul.
(1, 0) 232 Mae awyr y balconi yna'n well na lol fel hyn.
 
(1, 0) 255 Rwy'n pesychu, Mabli, i ti wybod mod i yma.
 
(1, 0) 257 Brenin ar bwy?
 
(1, 0) 259 Beth yw ei deitl?
 
(1, 0) 261 Beth yw ei nymbar─Harri'r Nawfed?
 
(1, 0) 263 Rwyt ti'n smart o d'oed: beth yw d'oed?
 
(1, 0) 265 Pymtheg─ers plwc bellach.
 
(1, 0) 268 Yr un faint ag sy rhwng afal coch ar y pren ganol haf ac hen afal melyn yng ngwaelod y sach ddiwedd y flwyddyn.
(1, 0) 269 Rwy'n gweld o'r balconi dy fam a dy nain yn dod.
 
(1, 0) 273 Harri, fe anghofiais y rhan bwysicaf o f'araith gynneu wrth ganu ffarwel am byth i fy hen etholwyr: wnei di wrando arni?
 
(1, 0) 277 Annwyl gyd-wladwyr, dyma'r hen Gyrnol yn cadw noswyl, ond ar f'engoch i, nid cyn gwneud diwrnod go lew o waith.
(1, 0) 278 Buoch yn godro fy manc-book am chwarter canrif nes mae bron yn sych gorn; agorais basars a |sales-of-work| a |jumble-sales| wrth yr ugeiniau; mae f'enw, er cynddrwg ydwyf, ar gerrig sylfaen y pedwar enwad; cefais |jobs| i gannoedd o'ch perthnasau; tanysgrifiais at bob tysteb o fewn y deuddeg sir; nid unwaith na dwy y buoch ar fy ngofyn am bres i brynu dannedd gosod a throliau a mulod i etholwyr tlawd.
(1, 0) 279 A dyma'r corn bwyd olaf wedi canu ar yr hen Gyrnol, a'r tipyn enaid oedd ganddo chwarter canrif yn ôl wedi diflannu wrth weini arnoch.
 
(1, 0) 287 Fachgen, fachgen!
(1, 0) 288 Y Prifweinidog yn dy longyfarch!
 
(1, 0) 295 Wel di, Harri, mae hwn {yn dal y teligram} naill ai'n em yn dy goron neu'n hoelen yn dy arch.
 
(1, 0) 300 Yn ddistaw bach, mae o'n tynnu ar ôl ei fam mewn rhai pethau─mae o dipyn yn feistrolgar fel petai.
 
(1, 0) 306 Mae o'n gwisgo sgidiau cryfach na fi─size mwy a lledar gwahanol.
 
(1, 0) 308 Efallai; ond mae cyrn tyner iawn ar draed yr oes yma.